Polisi’r Tafod Glas yng Nghymru

O 12 hanner dydd ar 21 Medi 2025 ymlaen, bydd rhai cyfyngiadau symud yn cael eu llacio ar gyfer pob anifail sydd wedi’i frechu yn erbyn Seroteip 3 Feirws y Tafod Glas (BTV-3) sy’n symud o’r parth dan gyfyngiadau i Gymru. Yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gyfredol a chyngor arbenigol, disgwylir i’r tymheredd yng Nghymru fod yn ddigon isel erbyn hyn i leihau trosglwyddiad y feirws gan wybed. 

Os ydych chi am symud anifeiliaid o Barth dan Gyfyngiadau BTV-3 i Gymru o hanner dydd 21 Medi 2025 ymlaen, bydd angen i chi ddilyn amodau’r drwydded gyffredinol EXD661(W). Ni fydd angen i chi wneud cais i APHA am y drwydded, ond mae’n rhaid i chi gadw at amodau’r drwydded. Gweler y canllawiau isod ‘Symudiadau i fyw: Anifeiliaid wedi’u brechu.’ 

Ar gyfer symud anifeiliaid heb eu brechu, mae’r mesurau rheoli presennol yn parhau i fod ar waith (gweler y canllawiau isod ar gyfer ‘Symudiadau i fyw: Anifeiliaid heb eu brechu’). 

Ar gyfer symud anifeiliaid sydd wedi treulio amser yn y Parth dan Gyfyngiadau ers mis Mai 2025 o Gymru i’r Alban , dilynwch y canllawiau ar gyfer ‘Symudiadau i’r Alban: Anifeiliaid sydd wedi tarddu yn y Parth dan Gyfyngiadau’. 

Polisi’r Tafod Glas yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623