A fedrwch chi ddosbarthu’r arolwg yma ar ba gyfryngau cymdeithasol yr ydych yn eu defnyddio – ma linc i hwn ar wefan Iechyd Da, neu rhanwch y postiad Facebook gan Iechyd Da.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bryste, fel rhan o brosiect arloesol Arwain DGC, wedi cyhoeddi arolwg ar-lein i geisio deall mynychder, triniaethau a dulliau atal y Geg Ddyfrllyd neu ‘Watery Mouth’ ymysg diadelloedd Cymru. Maent yn galw ar ffermwyr o Gymru i gwblhau yr arolwg i gyfrannu tuag at yr ymchwil pwysig yma, hyd yn oed os nad ydynt â phrofiad uniongyrchiol o’r clefyd.
Mae’r arolwg angen oddeutu chwarter awr i’w gwblhau. Fe fydd enw pawb sy’n cyfrannu yn cael ei roi mewn i het ac fe fydd un person lwcus yn ennill offer a darllennydd EID Shearwell, gwerth dros £775.
Linc i’r arolwg Cymraeg: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/svs/clefyd-y-geg-ddyfrllyd-ymhlith-wyn
Linc i’r arolwg Saesneg: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/svs/watery-mouth-disease
