Mae Iechyd Da wedi noddi rhan o’r PhD yma

Os oes diddordeb gyda chi i gwneud PhD mewn pwnc sy’n datblygu’n gyflym ac yn arloesol yn ei faes, yna edrychwch ar hwn! Mae Iechyd Da wedi noddi rhan o’r PhD yma.

Mae Iechyd Da yn ymroddedig i ymgyrch Arwain Defnydd Gwrthbiotegau Cyfrifol (Arwain DGC) ac yn cydweithio gyda Phrifysgol Lerpwl ar ei Prosiect FAVSNET (Farm animal veterinary surveillance network). Mae ein gwaith yn ffocysu ar wyliadwriaeth syndromig ar wybodaeth o Systemau Rheoli Practisiau (PMS). Os oes diddordeb gyda chi i gwneud PhD mewn pwnc sy’n datblygu’n gyflym ac yn arloesol yn ei faes, yna edrychwch ar hwn.

Craidd y prosiect yw i weld sut gall AI a gwyddor data cael eu defnyddio gan filfeddygon i wella eu dealltwriaeth o iechyd ac afiechydon ar ein ffermydd.

Y Prosiect

Mae gwyliadwriaeth am glefydau anifeiliaid yn seiliedig ar sawl haenen o wyliadwriaeth, a medrwch feddwl am rhain ar ffurf pyramid

Gwyliadwriaeth goddefol gan filfeddygon a ffermwyr am glefydau hysbysadwy i’r llywodraeth, e.e Tafod Las ar draws Prydain.

Gwyliadwriaeth goddefol ar samplau sy’n mynd i labordai

Gwyliadwriaeth gweithredol i edrych am glefydau, e.e profion rheolaidd am TB ar ffermydd.

Ond yn is yn y pyramid, ac efallai yr haenen fwyaf, yw’r clefydau sy’n cael ei delio gan ffermwyr a milfeddygon o ddydd i ddydd, a fan hyn mae ein bwlch mwyaf o ran data a dealltwriaeth.

Mae’r rhan helaeth o filfeddygon yn cadw eu cofnodion clinigol yn ddigidol; mae’r cofnodion iechyd digidol yma (EHR) yn adnodd gwyliadwriaeth ac ymchwil gwerthfawr. Mae defnydd EHR yn y maes gofalu am anifeiliaid anwes wedi ei ddatblygu ymhellach o’i gymharu ac anifeiliad fferm, ac mae yna sawl arolwg wedi darganfod ffeithiau diddorol am glefydau anifeiliad anwes trwy ddefnyddio’r dechneg yma.

Fel rhan o ymgyrch ehangach Arwain DGC, sy’n ceisio deall ac ymladd yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru, rydym wedi bod yn rhan o gynllun peilot sy’n edrych ar foeseg a defnyddioldeb casglu data EHR o grwp sentinel o bractisiau anifeiliad fferm ar draws Cymru (FAVSNET)

Yn ran o’r ddoethuriaeth yma fe fyddwch yn defnyddio yr EHR sy’n cael eu casglu yn ddyddiol ac yn gallu cael eu gweld yn fyw.

Yr amcanion penodol fydd:

1 Defnyddio modelau iaith dan/heb oruwchwyliaeth i ddatblygu dulliau sy’n gallu echdynnu data clinigol syndromig a diagnostig o EHR sydd yn aml yn ddi-strwythr

2 Ymchwilio i effeithiolrwydd defnyddio y dechneg model iaith i gael data ar lefel boblogaeth sy’n mesur dôs, amlder a nifer o drinaethau.

3 I ddatblygu metrigau cywiriad sy’n ddefnyddiol yn glinigol sy’n ymwneud â chlefydau a thriniaethau.

4 I weithio gyda rhanddeiliaid, sy’n cynnwys ffermwyr a milfeddygon, i aeddfedrwydd/ derbynioldeb y metrigau AI yn y byd sydd ohoni.

5 Cyfuno amcanion 1 a 2 i i greu treial ymyrryd i fesur ein gallu i wella defnydd gwrthbiotigau ar ffermydd sy’n defnyddio llawer o wrthbiotigau sydd ar FAVSNET ar lefel syndromig.

Yn ystod y prosiect e fydd yna gyfleoedd i’r myfyriwr cael ei leoli gan Iechyd da mewn sawl gwahanol fan i gael dealltwriaeth ehangach o’r prosiect ac i hybu trosglwyddo y gwybodaeth o’r lefel ymchwil i’w ddefnyddio yn bractegol.

Fe fydd angen diddordeb yn iechyd anifeiliaid ac yng ngwyddor data.

Mi fyddai gradd yn milfeddygaeth neu gwyddor bio-filfeddygol yn ddefnyddiol ond nid yn angenrheidiol. ond bydd y gallu i gyfathrebu achydweithio gyda milfeddygon a ffermwyr yn handfodol.

I’r rhai sydd dim gyda cymwysterau sy’n ywmneud a chyfrifiaduron fe fydd hi’n hanfodol iddynt ddangos ymrwymiad i ddysgu hyn.

Mi fyddwch yn cael eich lleoli mewn grwp gwyddor data ar gampws Leahurst, Prifysgol Lerpwl (fe fydd rhai eraill yn y grwp yn gweithio ar ddata anifeiliaid anwes a cheffylau.

Mae’r grwp yn mynchu gweithdai a chynhadleddau cloddio testun, ac yn arwain y HealTAC Health Care Text Analytics Conference. Yn Symposiwm Milfeddygol Cornell diweddar fe ennillodd y grwp tri o’r gwobrau, sy’n dyst i werth gwaith y grwp.Mae aelodau o’r grwp yn cael annogaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r cyhoedd, er mwyn darganfod yr heriau a’r mwynhad o gyfathrebu am ddeallusrwydd artiffisial

Gweler y linc isod

(BBSRC NWD CASE) How can artificial intelligence and data science be used to complement / augment trusted veterinary professionals to improve understanding of farm animal health and disease at University of Liverpool on FindAPhD.com

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623