Cyfyngiadau symud ar wartheg yng Nghymru i reoli TB yn well

Bydd teuluoedd ffermio Cymru yn elwa wrth i fesurau cryfach i reoli TB ddod i rym o Ionawr 2026 a fydd yn gosod cyfyngiadau symud am oes ar wartheg sydd wedi cael canlyniad amhendant i brawf.

Yn dilyn cais gan y diwydiant a chyngor arbenigol annibynnol wedi hynny, cyhoeddwyd y bydd polisïau ar wartheg sy’n cael Adwaith Amhendant (IRs) yn newid. 

Bydd gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i brawf TB trwy ddehongliad safonol sydd wedyn yn cael ail brawf clir o 1 Ionawr 2026 ymlaen yn gorfod aros am eu hoes ar eu daliad gwreiddiol. Mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod yr anifeiliaid hyn 3 gwaith yn fwy tebygol o gael adwaith i brawf TB na gwartheg sy’n cael prawf clir. 

Y ffenestr brofi arferol ar gyfer ail brawf IRs yw rhwng 60 a 90 diwrnod.  Felly, mae’n bosibl y bydd yr IRs gaiff eu datgelu ar ôl 1 Tachwedd ac na fydd wedi cael eu hail brawf tan ar ôl 1 Ionawr 2026 yn dod o dan y rheolau newydd. Dim ond yn syth i ladd-dy neu gyda thrwydded i Uned Besgi Gymeradwy trwy ganolfan gasglu neu arwerthiant TB penodedig y cewch symud y gwartheg hyn. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Gofynnodd y diwydiant, ac rydyn ni wedi gwrando. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwartheg IR safonol hyn yn risg uwch gan fod cyfran fwy ohonyn nhw’n cael adwaith i brawf TB wedi hynny. Mae perygl felly y gall gwartheg sydd â’r haint heb ei ganfod arnyn nhw gael eu symud a lledaenu TB i fuchesi eraill. 

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) a Bwrdd y Rhaglen i wneud newidiadau go iawn fydd yn ein helpu i ddelio â’r clefyd a chefnogi ffermwyr trwy gyfnodau anodd.” 

Mae’r newid hwn yn mynd i’r afael â phryderon y diwydiant am ledaenu TB rhwng buchesi. O dan yr hen drefn, roedd IRs safonol yn cael symud yn rhydd ar ôl ail brawf negyddol, gan drosglwyddo haint heb ei ganfod i fuchesi glân. 

Mae partneriaeth gref yn cryfhau’r mesurau rheoli TB yn Sir Benfro hefyd, lle mae milfeddygon a ffermwyr yn cael eu grymuso trwy ddarparu data ac addysg i helpu i reoli TB ar eu ffermydd. Mae Michael Williams o Fferm Fagwrfran yn Sir Benfro yn croesawu’r newid: 

Yn sgil cymryd rhan ym Mhrosiect Sir Benfro, rydyn ni wedi dysgu llawer iawn am TB ac anifeiliaid risg uchel a deall y pwnc yn well. Rydyn ni’n deall y risg y mae adweithyddion amhendant yn eu creu a’r potensial iddynt gael eu heintio a dod yn gronfa ar gyfer yr haint. Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i gyfyngu ar symudiadau’r anifeiliaid hyn a gobeithio y bydd yn help i atal lledaeniad y clefyd o fferm i fferm.

Gan adeiladu ar yr egwyddorion a’r arferion gorau a sefydlwyd yn Sir Benfro, mae menter debyg yn cael ei chynnal nawr yn yr ardal TB isel y Gogledd. Meddai Paul Williams, o Gae Haidd, Conwy: 

Gan adeiladu ar y gwaith rhagorol y mae ein ffrindiau yn Sir Benfro wedi’i wneud, ein nod yma yn y Gogledd yw cadw TB draw o gymaint o’n hardal â phosibl. Bydd meddwl y tu allan i’r bocs a defnyddio technegau a data arloesol, a gweithio â milfeddygon lleol, yn allweddol i wireddu, gobeithio, ein prif nod. Mae’r newidiadau sydd ar fin digwydd i’r cyfyngiadau ar symud gwartheg sydd yn rhai risg uchel yn ffordd ddoeth ymlaen, a bydd yn lleihau’r risg o gyflwyno’r clefyd dinistriol hwn i’n ffermydd.” 

Mae’r manylion llawn i’w cael ar y Nodyn briffio OV62 Briefing Note

Ond yn gryno.

O Ionawr y Cyntaf 2026, fe fydd unrhyw Adweithydd Amhendant ar brawf amodau safonol (standard IR) sy’n cael prawf clir o dan amodau safonol yn cael ei cyfyngu am oes i’w daliad presennol. Yr unig symudiadau gall yr anifeiliaid yma wneud yw i:

Ladd-dŷ, marchnad oren neu i uned besgi cymeradwy (AFU); a hynny o dan drwydded unigol neu drwydded symudol gyffredinol o APHA.

Fe fydd Adweithyddion Amhendant o dan amodau safonol sydd wei pasio ail brawf o dan amodau safonol ( resolved standard IR under standard interpretation) yn cael eu cyfyngu am oes ar y daliad ble’u datgelwyd, felly fe fydd angen CPH ar y daliad yma. Os yw’r anifail yma ar dir comin neu yn pori ar dir dros dro, fe fydd yn cael ei gyfyngu i’r daliad sy’n gysylltiedig gyda’r tir yma. Unwaith bydd yr anifail yma yn ôl ar y daliad parhaol ni fydd yn medru mynd i dir pori dros dro nac i dir comin eto.

Cyfrifoldeb y perchennog yw gwneud yn siwr fod yr anifail yma yn cael ei gyfyngu am oes. Er nad oes rheidrwydd, mae’n arfer da i geisio rhoi rhyw ffordd i adnabod yr anifail yma i osgoi symudiad damweiniol oddi ar y daliad. Fe fydd APHA yn gwneud hapwiriadau ar Adweithyddion Amhendant i wneud yn siwr eu bod nhw’n gyfyngedig am oes.

Os yw un o’r Adweithyddion Amhendant yma wedi symud i fferm arall fe fydd APHA yn rhoi’r anifail o dan gyfyngiadau am oes ar y daliad newydd, ac fe fydd y diffyg cydymffurfio yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol. Penderfyniad yr awdurdod lleol fydd y gosb am y diffyg cydymffurfio.

Yn wahanol i Lloegr ni fydd unrhyw ganlyniad prawf gwaed Gamma yn gallu codi y cyfyngiadau ar yr Adweithyddion Amhendant yng Nghymru.

Rhannu’r erthygl hon

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Po Box 8, North Road, Aberystwyth, SY23 2WB.

T: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Iechyd Da Limited is a company registered in England and Wales with company number: 1234567

Iechyd Da

Darganfod, datblygu a darparu.

Iechyd Da (Gwledig) Limited
Blwch Post 8, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, SY23 2WB.

Ff: +44 (0) 1970 636 688
E: info@iechydda.cymru

Mae Iechyd Da Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni: 08821623